Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Mawrth 2023
Amser:
09.30 -
11.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13244
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Tom Giffard AS (yn lle Peter Fox AS) |
Tystion: |
Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dafydd Evans, Llywodraeth Cymru Leanne Roberts, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) |
Cofrestru (09.00-09.15)
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
1.3 Dirprwyodd Tom Giffard AS ar ran Peter Fox AS ar gyfer eitemau 1 i 6. Roedd Peter Fox AS yn bresennol am weddill y cyfarfod.
2 Papur(au) i'w nodi:
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddyraniadau Cyfalaf Trafodion Ariannol - 27 Chwefror 2023
3 Goblygiadau ariannol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar oblygiadau ariannol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Dafydd Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwyddorau Bywyd ac Arloesedd; a Leanne Roberts, Pennaeth Polisi Diwygio Caffael - Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
3.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu:
· cyfrifon manwl mewn perthynas â’r cynnydd o £2.7 miliwn mewn costau staff i gyrff y GIG a nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol;
· cadarnhad o’r tebygolrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyllid canlyniadol o ganlyniad i’r gwariant yn Lloegr.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r cyfarfod ar 23 Mawrth 2023
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Goblygiadau ariannol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Adolygiad o Siarter Awdurdod Cyllid Cymru
6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar yr adolygiad o siarter Awdurdod Cyllid Cymru.
7 Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod yr adroddiad drafft
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad cyn cytuno arno, yn amodol ar fân newidiadau.